To read this in Welsh, please scroll to the bottom of this page.
In Wales, two full cycles of NHS fertility treatment are currently funded and access criteria are standard across the country.
Historically waiting lists have been lengthy due to the lack of clinics approved by the Welsh Government to provide NHS treatment. More recently however waiting times have reduced.
A specialist services policy was developed for the planning of Specialist Fertility Services for Welsh patients. The policy applies to residents of all seven Health Boards in Wales – view policy
The document:
- Sets out the circumstances under which patients will be able to access specialist fertility services;
- Clarifies the referral process; and
- Defines the criteria that patients must meet in order to access treatment
On the 1 April 2010 the entitlement was increased from one full cycle of IVF to two for all women who meet the Welsh health Specialised Services Committee (WHSSC) access criteria, with the exception of Armed Forces Compensation Scheme (AFCS) recipients who are entitled to three cycles (see 3.2.9). A cycle includes one fresh and one frozen embryo transfer.
- In-vitro fertilisation (IVF)
- Intra-cytoplasmic sperm injection (ICSI)
- Donor insemination
- Surgical sperm retrieval methods including:
- micro-epididymal sperm aspiration (MESA);
- testicular sperm extraction (TESE); and
- percutaneous epididymal sperm aspiration (PESA)
- Egg, sperm, embryo and gonadal tissue cryostorage and replacement techniques
- Other micro-manipulation techniques
- Egg donation where no other treatment is available
- IVF surrogacy
Intra-uterine insemination (IUI) is not funded by WHSSC. Funding for IUI is the responsibility of the Health Boards. Where donor sperm is needed to undertake IUI, the donated sperm will be funded by WHSSC, but not the IUI procedure.
Waiting Times
First cycle of IVF/ ICSI
Following referral into specialised fertility services patients should be offered an outpatient appointment within the 26 week referral to treatment target. As the normal waiting times targets do not apply to IVF treatment for clinical reasons the referral to treatment clock is stopped at the first attended outpatient consultation.
Patients with unexplained infertility will only be listed for IVF, with or without ICSI, treatment if it is demonstrated that the couple have not conceived after 2 years (this can include up to 1 year before their fertility investigations) of regular unprotected sexual intercourse.
Couples must have been cohabiting in a stable relationship for a minimum or 2 years.
Same sex couples/single women/single men with unexplained infertility will only be listed for IVF, with or without ICSI, treatment if it is demonstrated that they have not conceived following insemination at or just prior to the known time of ovulation on at least six non-stimulated cycles.
Patients presenting for their first IVF/ICSI cycle must wait for a minimum of twelve months before treatment as many will conceive normally during this period. This is applied by all the clinics providing a service to Welsh patients.
Couples can be expedited before the twelve month waiting time if there is a clinical justification for doing so (see CP38 doc section 3.1). Clinics should have a robust documented process for expediting treatment.
Second cycle
Patients presenting for their second cycle will not be treated as a new referral and will not be required to wait the mandatory 12 months.
Criteria for Treatment
Female Age
Due to the associated risks with teenage pregnancies patients will need to be at least 20 years old to access IVF treatment. Women who are aged less than 40 years and who meet the access criteria are entitled to two cycles of IVF with or without ICSI. However if the woman reaches the age of 40 during the first cycle of treatment they will not be entitled to a second cycle of IVF.
Women aged between 40 and 42 years (up to their 43rd birthday) who meet the access criteria are entitled to one cycle of IVF with or without ICSI provided the following 3 criteria are also fulfilled:
- They have never previously had IVF
- There is no evidence of low ovarian reserve
- There has been a discussion of the additional implications of IVF and pregnancy at this age
Male Age
Men must be aged 55 years or younger in order to access IVF treatment.
Existing Children
IVF on the NHS is available for:
(1) Couples where one of the partners does not have any living children (biological or adopted).
(2) Single women or men who do not have any living children (biological or adopted).
Body Mass
Women accessing IVF treatment must have a body mass index (BMI) of between at least 19 and up to and including 30. Female patients with a BMI below 19 that are ovulating normally may be treated at the discretion of the treating clinician.
Patients outside this range will not be added to the waiting list and should be referred back to their general practitioner for management where required.
Sterilisation
Sub-fertility is not the result of a sterilisation procedure in either partner/single woman/single man (this does not include conditions where sterilisation occurs as a result of another medical problem). Couples/single women/single men who have undertaken a reversal should not be referred for treatment.
Smoking
Where either of the couple/single woman/single man smokes the patient is not eligible. Only patients who agree to take part in a supported programme of smoking cessation will be accepted on the IVF treatment waiting list and must be non-smoking at time of treatment.
History of previous treatment
For single patients, three or more IVF cycles by the patient will exclude any further NHS IVF treatment. For couples, three or more IVF cycles by either partner will exclude any further NHS IVF Treatment. Previous cycles whether NHS or privately funded will be taken into account.
Subfertility
Subfertility must be demonstrated before there can be access to NHS funded IVF treatment. Subfertility for heterosexual couples is defined as inability to conceive after 2 years unprotected intercourse or a fertility problem demonstrated at investigation. Subfertility for same sex couples/single women/single men is defined as no live birth following insemination at or just prior to the known time of ovulation on at least six non-stimulated cycles or a fertility problem demonstrated at investigation.
For same sex couples/ single women/single men, the non-stimulated cycles may be achieved through a private arrangement or through NHS-provided IUI with donor sperm.
Change of partner whilst waiting for IVF treatment
If a couple consent to treatment but during the waiting period for treatment the couple break up then treatment cannot commence. If one or both of the partners wish to proceed with treatment with either a new partner or by themselves then the clinic that is providing the treatment needs to be notified. The new couple/individual will need to attend a consultation where the fertility history of the couple/individual needs to be reviewed, treatment options explained and discussed and if the couple/individual still meet the eligibility criteria consent to proceed with treatment.
IVF for Veterans
Armed Forces Personnel who have become infertile as a result of military action and are Armed Forces Compensation Scheme (AFCS) recipients are entitled to 3 full cycles of IVF treatment. All applications for this should be forwarded to Welsh Health Specialised Services via the All Wales IPFR process for consideration in line with guidance from the Independent Medical Expert Group.
Putting things right – raising a concern
If you have been told that you do not meet the criteria for treatment and are unhappy with the decision then you will need to provide further information to your clinician. If the referring clinician believes that there are exceptional clinical grounds for treatment then an Individual Patient Funding Request (IPFR) can be made to WHSSC demonstrating exceptionality. The IPFR application form and accompanying information can be found here.
The request will then be considered by the All Wales IPFR Panel.
If you are not happy with the decision of the All Wales IPFR Panel then you have a right to ask for this decision to be reviewed. The grounds for the review, which are detailed in the All Wales Policy: Making Decisions on Individual Patient Funding Requests (IPFR) must be clearly stated. The review should be undertaken, by your Local Health Board (LHB).
If you are unhappy with the care provided during treatment or the clinical decision to withdraw treatment provided under this policy, you should be guided to the LHB for NHS Putting things Right
For services provided outside NHS Wales you should be guided to the NHS Trust Concerns Procedure, with a copy of the concern being sent to WHSSC.
_______________________________________________________________________________________________
Yng Nghymru, mae dau gylch llawn o driniaeth ffrwythlondeb y GIG yn cael eu hariannu ar hyn o bryd ac mae meini prawf mynediad yn safonol ledled y wlad.
Yn hanesyddol, bu rhestrau aros yn hir oherwydd y diffyg clinigau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu triniaeth y GIG. Yn fwy diweddar, fodd bynnag, mae’r amseroedd aros wedi lleihau.
Datblygwyd polisi gwasanaethau arbenigol ar gyfer cynllunio gwasanaethau ffrwythlondeb arbenigol i gleifion yng Nghymru. Mae’r polisi’n berthnasol i drigolion pob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru – gweler y polisi.
Mae’r ddogfen:
· Yn nodi o dan ba amgylchiadau y bydd modd i gleifion gael gwasanaethau ffrwythlondeb arbenigol;
· Yn egluro’r broses atgyfeirio; ac
· Yn diffinio’r meini prawf y mae’n rhaid i gleifion eu bodloni er mwyn cael triniaeth
Ar 1 Ebrill 2010, cynyddwyd yr hawl o un cylch llawn o IVF i ddau ar gyfer pob menyw sy’n bodloni meini prawf mynediad Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, ac eithrio derbynwyr Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, sydd â hawl i dri chylch (gweler 3.2.9). Mae cylch yn cynnwys un trosglwyddiad o embryo newydd ac un o embryo sydd wedi’i rewi.
· Ffrwythloni in vitro (IVF)
· Chwistrellu sberm yn fewnsytoplasmig (ICSI)
· Ffrwythloni drwy roddwr
· Dulliau adfer sberm llawfeddygol, gan gynnwys:
· allsugno sberm o’r epididymis drwy ddulliau micro (MESA);
· echdynnu sberm o’r ceilliau (TESE); ac
· allsugno sberm o’r epididymis drwy’r croen (PESA)
· Technegau amnewid a storio cryogenig ar gyfer wyau, sberm, embryonau a meinwe’r gonadau
· Technegau mico-drin eraill
· Rhoi wyau pan nad oes triniaeth arall ar gael
· Benthyg croth fel rhan o broses IVF
Nid ariennir triniaethau ffrwythloni mewngroth gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw cyllid ar gyfer y driniaeth hon. Lle bo angen sberm rhoddwr i roi triniaeth ffrwythloni mewngroth, bydd y sberm a roddir yn cael ei ariannu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ond nid y driniaeth ei hun.
Amseroedd aros
Cylch cyntaf IVF/ICSI
Ar ôl cael eu hatgyfeirio i wasanaethau ffrwythlondeb arbenigol, dylai cleifion gael cynnig apwyntiad claf allanol o fewn y targed atgyfeirio i driniaeth o 26 wythnos. Gan nad yw’r targedau arferol ar gyfer amseroedd aros yn berthnasol i driniaeth IVF am resymau clinigol, mae’r cloc atgyfeirio i driniaeth yn cael ei stopio ar ôl yr ymgynghoriad claf allanol cyntaf lle mae’r claf yn bresennol.
Dim ond os dangosir nad yw’r cwpl wedi beichiogi ar ôl dwy flynedd o gyfathrach rywiol reolaidd heb ddiogelwch (gall hyn gynnwys hyd at flwyddyn cyn iddynt gynnal ymchwiliadau ffrwythlondeb) y bydd cleifion ag anffrwythlondeb anesboniadwy yn cael eu rhestru ar gyfer triniaeth IVF, gydag ICSI neu hebddo.
Rhaid i gyplau fod wedi bod yn cyd-fyw mewn perthynas sefydlog am o leiaf dwy flynedd.
Dim ond os dangosir nad ydynt wedi beichiogi yn dilyn ffrwythloni ar yr adeg ofylu hysbys neu ychydig cyn yr adeg hon ar o leiaf chwe chylch heb eu hysgogi y bydd cyplau o’r un rhyw / menywod sengl / dynion sengl ag anffrwythlondeb anesboniadwy yn cael eu rhestru ar gyfer triniaeth IVF, gydag ICSI neu hebddo.
Rhaid i gleifion sy’n cyflwyno ar gyfer eu cylch IVF/ICSI cyntaf aros am o leiaf deuddeg mis am y driniaeth gan y bydd llawer yn beichiogi yn y modd arferol yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r egwyddor hon yn cael ei chymhwyso gan yr holl glinigau sy’n darparu gwasanaeth i gleifion yng Nghymru.
Gall y broses ar gyfer cyplau gael ei chyflymu cyn diwedd y cyfnod aros o ddeuddeg mis os oes cyfiawnhad clinigol dros wneud hynny (gweler adran 3.1 o ddogfen CP38). Dylai clinigau fod â phroses gadarn wedi’i dogfennu ar gyfer cyflymu triniaeth.
Ail gylch
Ni fydd cleifion sy’n cyflwyno am eu hail gylch yn cael eu trin fel atgyfeiriad newydd ac ni fydd yn ofynnol iddynt aros am y deuddeg mis gorfodol.
Meini prawf triniaeth
Oedran y fenyw
Oherwydd y risgiau cysylltiedig â beichiogrwydd yn yr arddegau, bydd angen i gleifion fod yn 20 oed o leiaf cyn cael triniaeth IVF. Mae gan ferched sy’n iau na 40 oed ac sy’n bodloni’r meini prawf mynediad hawl i ddau gylch o IVF gyda neu heb
ICSI. Fodd bynnag, os bydd y fenyw yn cyrraedd 40 oed yn ystod cylch cyntaf y driniaeth, ni fydd hawl ganddi i ail gylch o IVF.
Mae gan ferched rhwng 40 a 42 oed (hyd at eu pen-blwydd yn 43 oed) sy’n bodloni’r meini prawf mynediad hawl i un cylch o IVF gyda neu heb ICSI ar yr amod fod y tri maen prawf canlynol yn cael eu cyflawni hefyd:
· Nid ydynt erioed wedi cael IVF o’r blaen
· Nid oes tystiolaeth o gronfeydd wrth gefn isel yn yr ofari
· Bu trafodaeth ar oblygiadau ychwanegol IVF a beichiogrwydd yn yr oedran hwn
Oedran y dyn
Rhaid i ddynion fod yn 55 oed neu’n iau er mwyn cael triniaeth IVF.
Plant presennol
Mae IVF ar y GIG ar gael ar gyfer:
(1) Cyplau pan nad oes gan un o’r partneriaid unrhyw blant sy’n byw (biolegol neu fabwysiedig).
(2) Merched neu ddynion sengl nad oes ganddynt unrhyw blant sy’n byw (biolegol neu fabwysiedig).
Màs y corff
Rhaid i ferched sy’n cael triniaeth IVF fod â mynegai màs y corff (BMI) rhwng 19 o leiaf a hyd at ac yn cynnwys 30. Gellir trin cleifion benywaidd â BMI o dan 19 sy’n ofylu yn y modd arferol yn ôl disgresiwn y clinigwr sy’n eu trin.
Ni fydd cleifion y tu allan i’r ystod hon yn cael eu hychwanegu at y rhestr aros a dylid eu cyfeirio’n ôl at eu meddyg teulu er mwyn rheoli eu cyflwr lle bo angen.
Anffrwythloni
Nid yw tanffrwythlondeb yn ganlyniad triniaeth anffrwythloni yn yr un partner neu’r llall neu mewn menyw sengl / dyn sengl (nid yw hyn yn cynnwys cyflyrau lle mae anffrwythloni yn digwydd o ganlyniad i broblem feddygol arall). Ni ddylid atgyfeirio cyplau / menywod sengl / dynion sengl sydd wedi gwrthdroi triniaeth anffrwythloni i gael triniaeth.
Ysmygu
Pan fydd y naill neu’r llall yn y cwpl / menyw sengl / dyn sengl / yn ysmygu, nid yw’r claf yn gymwys. Dim ond cleifion sy’n cytuno cymryd rhan mewn rhaglen a gefnogir o roi’r gorau i ysmygu a fydd yn cael eu derbyn ar y rhestr aros am driniaeth IVF a rhaid iddynt fod yn peidio ag ysmygu ar adeg y driniaeth.
Hanes triniaeth flaenorol
Ar gyfer cleifion sengl, bydd tri neu fwy o gylchoedd IVF gan y claf yn dod ag unrhyw driniaeth IVF ychwanegol gan y GIG i ben. Ar gyfer cyplau, bydd tri neu fwy o gylchoedd IVF gan y naill bartner neu’r llall yn dod ag unrhyw driniaeth IVF arall gan y GIG i ben. Bydd cylchoedd blaenorol, p’un a gafodd eu hariannu gan y GIG neu’n breifat, yn cael eu hystyried.
Tanffrwythlondeb
Rhaid dangos tanffrwythlondeb cyn y gellir cael triniaeth IVF a ariennir gan y GIG. Diffinnir tanffrwythlondeb cyplau heterorywiol fel anallu i feichiogi ar ôl dwy flynedd o gyfathrach rywiol heb ddiogelwch neu broblem ffrwythlondeb a ddangosir yn ystod ymchwiliad. Diffinnir tanffrwythlondeb cyplau o’r un rhyw / menywod sengl / dynion sengl fel dim genedigaeth fyw yn dilyn ffrwythloni ar yr adeg ofylu hysbys neu ychydig cyn yr adeg hon ar o leiaf chwe chylch heb eu hysgogi neu broblem ffrwythlondeb a ddangosir yn ystod ymchwiliad.
Ar gyfer cyplau o’r un rhyw / menywod sengl / dynion sengl, gellir cyflawni’r cylchoedd heb eu hysgogi trwy drefniant preifat neu drwy ffrwythloni mewngroth a ddarperir gan y GIG â sberm rhoddwr.
Newid partner wrth aros am driniaeth IVF
Os yw cwpl yn cydsynio i driniaeth ond, yn ystod y cyfnod aros am driniaeth, mae’r cwpl yn gwahanu, ni all y driniaeth gychwyn. Os yw un neu’r ddau o’r partneriaid yn dymuno bwrw ymlaen â’r driniaeth gyda naill ai partner newydd neu ar eu pennau eu hunain, bydd angen hybysu’r clinig sy’n darparu’r driniaeth. Bydd angen i’r cwpl newydd / unigolyn fynd i ymgynghoriad, lle bydd angen adolygu hanes ffrwythlondeb y cwpl/unigolyn, egluro a thrafod opsiynau triniaeth, a phenderfynu a yw’r cwpl/unigolyn yn dal i fodloni’r meini prawf cymhwysedd ac yn cydsynio i fwrw ymlaen â’r driniaeth.
IVF i gyn-filwyr
Mae gan bersonél y Lluoedd Arfog sydd wedi dod yn anffrwythlon o ganlyniad i weithredu milwrol ac sy’n dderbynwyr Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog hawl i dri chylch llawn o driniaeth IVF. Dylid anfon pob cais am hyn at Wasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru trwy broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) Cymru gyfan i’w ystyried yn unol â chanllawiau’r Grŵp Arbenigwyr Meddygol Annibynnol.
Gweithio i Wella – codi pryder
Os ydych wedi cael gwybod nad ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer triniaeth ac nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad hwn, bydd angen i chi roi rhagor o wybodaeth i’ch clinigwr. Os yw’r clinigwr sy’n atgyfeirio yn credu bod seiliau clinigol eithriadol dros gael triniaeth, gellir gwneud Cais Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru sy’n dangos eithriadoldeb. Gellir dod o hyd i’r ffurflen gais IPFR a gwybodaeth ategol yma.
Bydd y cais yn cael ei ystyried wedyn gan banel IPFR Cymru gyfan.
Os nad ydych yn fodlon ar benderfyniad panel IPFR Cymru gyfan, mae gennych hawl i ofyn am adolygu’r penderfyniad hwn. Rhaid nodi’n glir seiliau’r adolygiad, y manylir arnynt yn nogfen Polisi GIG Cymru: Gwneud Penderfyniadau ar Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR). Dylai’r adolygiad gael ei wneud gan eich Bwrdd Iechyd Lleol.
Os nad ydych chi’n fodlon ar y gofal a ddarperir yn ystod y driniaeth neu’r penderfyniad clinigol i dynnu’r driniaeth a ddarperir o dan y polisi hwn yn ôl, dylech gael eich cyfeirio at y Bwrdd Iechyd Lleol o dan drefniadau Gweithio i Wella y GIG.
Ar gyfer gwasanaethau a ddarperir y tu allan i GIG Cymru, dylech gael eich cyfeirio at Weithdrefn Pryderon Ymddiriedolaeth y GIG ac anfon copi o’r pryder at Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.