You are not alone

Join our Wales Fertility Group.

Our fertility group meetings are facilitated by a Fertility Network UK Volunteer.

The group is a closed private Facebook group and there is a monthly online support group meeting via Zoom. If you join the Facebook group you will automatically be invited to support zoom.  Share as little or as much as you need, there is absolutely no pressure.

This group is for anyone struggling to conceive their first child in Wales both individuals and couples. Everyone is welcome. 

Wales Fertility Group

Health & Wellbeing groups and courses:

Throughout the year we regularly run activities and online courses that anyone affected by a fertility issue can request to join. These include online yoga sessions, and 6-week courses in nutrition, mindfulness, and mindful eating.

Our groups are facilitated by Fertility Network UK staff and volunteers, and courses are run by qualified practitioners and trainers.

To find out more about what’s on visit our health and wellbeing page here

Please share this information. Around 1 in 6 are affected by a fertility issue. Others you know may benefit from support too. You are not alone.

________________________________________________________________________

Nid ydych chi ar eich pen eich hun

Ymunwch â’n Grwpiau Ffrwythlondeb.

Mae ein cyfarfodydd grŵp ffrwythlondeb yn cael eu hwyluso gan staff neu wirfoddolwyr Fertility Network UK. Maent yn groesawgar ac anffurfiol ac yn perthyn i chi!

Mae’r grwpiau’n rhedeg ar-lein ac yn cynnig cyfle gwych i glywed gan eraill sy’n deall yn iawn beth rydych chi’n mynd drwyddo, ac i siarad â nhw. Does dim rhaid i chi siarad, a gallwch chi ddiffodd eich camera os yw’n well gennych chi. Rhannwch cyn lleied neu gymaint ag sydd ei angen arnoch – nid oes unrhyw bwysau o gwbl.

Mae rhai o’n cyfarfodydd i bawb, ac mae rhai wedi’u teilwra’n fwy at faterion penodol, felly edrychwch i weld pa un allai fod orau i chi. Rydyn ni’n ceisio eu lledaenu trwy gydol y mis hefyd fel bod gennych chi opsiynau lluosog a llawer o gyfleoedd i gael cefnogaeth.

Mae ein cyfarfodydd grŵp ffrwythlondeb yn agored i unrhyw un y mae problem ffrwythlondeb yn effeithio arnynt, yn unigolion ac yn gyplau. Mae croeso i bawb. Gallwch weld ein holl grwpiau cymorth ffrwythlondeb, sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau, yma.

Grwpiau a chyrsiau iechyd a lles:

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal gweithgareddau a chyrsiau ar-lein yn rheolaidd y gall unrhyw un y mae problem ffrwythlondeb yn effeithio arnynt wneud cais i ymuno â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau ioga ar-lein, a chyrsiau chwe wythnos mewn maeth, ymwybyddiaeth ofalgar, a bwyta’n ystyriol.

Mae ein grwpiau’n cael eu hwyluso gan staff a gwirfoddolwyr Fertility Network UK, ac mae cyrsiau’n cael eu rhedeg gan ymarferwyr a hyfforddwyr cymwys. I ddarganfod mwy am beth sy’n digwydd, ewch i’n tudalen iechyd a lles yma.

Rhannwch yr wybodaeth hon, os gwelwch yn dda. Mae tua un o bob chwech o bobl yn cael eu heffeithio gan broblem ffrwythlondeb. Gallai eraill yr ydych yn eu hadnabod elwa o gefnogaeth hefyd. Nid ydych chi ar eich pen eich hun.